CAW81 Cymdeithas yr Iaith - Rhanbarth Caerfyrddin

Ymgynghoriad ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

Amdanoch Chi

Sefydliad: Cymdeithas yr Iaith - Rhanbarth Caerfyrddin

1.        Egwyddorion cyffredinol y Bil

1.1         A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Cwricwlwm ac Asesu(Cymru)?

Ydw

1.2         Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,500 o eiriau)

Cefnogwn yn gryf y cysyniad na ddylai cwricwlwm fod yn gyfyngedig i ffiniau pynciau penodol. Mae pwyslais cynyddol ar addysgu thematig yn paratoi disgyblion yn well ar gyfer realiti bywyd yn y Gymru gyfoes, gan feithrin y gallu i grynhoi o lawer o wahanol feysydd wybodaeth ar gyfer mentrau newydd, a'r gallu i gydweithio ag eraill mewn modd cydlynus.

O ran dysgu'r Gymraeg fel pwnc, mae pryder o hyd gyda ni y bydd y llywodraeth yn cefnu ar ei ymrwymiad i ddileu'r pwnc dirmygus "Cymraeg Ail Iaith", sydd wedi bod yn fethiant llwyr, a datblygu'n hytrach un continwwm o sgiliau mewn Cymraeg, gan fesur cynnydd pob disgybl ar hyd y continwwm

1.3         A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

-

2.        Gweithredu’r Bil

2.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

-

2.2         A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

-

3.        Canlyniadau anfwriadol

3.1         A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Dyma ein prif bryder. Mae'r Bil fel y mae'n sefyll yn debyg o ddwyn oddi ar filoedd o ddisgyblion sy'n dod o aelwydydd Saesneg eu hunig wir gyfle mewn bywyd o ddod yn rhugl yn y Gymraeg yn ogystal â Saesneg o ran iath ngwaith a chyfathrebu. Bydd hyn yn eu gosod tan afnantais arwyddocaol mewn gwlad swyddogol ddwytieithog.

Cydnabyddir yn gyffredinol mai dull "trochiant" yn y Gymraeg o'r oedran cynharaf yw'r unig ddull effeithiol o sicrhau fod disgyblion o gartrefi Saesneg yn dod yn rhugl yn y Gymraeg - er ei bod yn bwysig hefyd fod elfen o'u haddysg o hynny allan hefyd yn parhau'n Gymraeg ei chyfrwng. Mae gorfodaeth yn y Bil i gyflwyno Saesneg o'r oedran cynharaf yn tanseilio dull trochiant ac yn gwneud anghymwynas mawr â disgyblion.

Ni chredwn fod yr opsiwn i optio allan o'r rhan hon o'r Bil yn datrys y broblem a greir gan y Bil ei hun. Golygir y bydd dal posibiliad fod ysgolion sy'n addysgu'n gyfangwbl yn Gymraeg o 3-7 oed yn stopio gwneud hynny ac, yn bwysicach, bydd yn amhosibl creu unrhyw strategaeth sirol o symud ysgolion ar hyd continwwm tuag at addysg Gymraeg ei chyfrwng. Bydd yn rhaid wedyn cwestiynu holl ddilysrwydd Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

Mae'r cynnig o ran optio allan yn arbennig o beryglus mewn sir fel Caerfyrddin lle mae pob ysgol gynradd yn yr ardaloedd gwledig yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg hyd at 7 oed. Byddai dadl am optio allan yn ailagor hen ddadleuon a rhwygiadau a setlwyd genhedlaeth yn ôl. Y polisi presennol mewn sir fel hon ac yn Nyffryn Teifi a rhannau helaeth eraill o Ddyfed sy'n siocrhau fod plant mewnfudwyr i'r sir yn datblygu sgiliau i chwarae rhan llawn ym mywyd eu cymunedau yn ogystal â chwblhau eu haddysg yn llwyddiannus. Byddai gweithredu'r cymalau hyn yn y Bil fel y mae yn creu rhwygiadau cymdeithasol yn ogystal â gosod carfan o ddisgyblion tan anfantais. Byddai meithrin cenhedlaeth arall o bobl na fedrent Gymraeg hefyd yn amddifadu'n ymarferol llawer o hawliau siaradwyr Cymraeg o ddefnyddio'r iaith yn eu bywyd bob dydd, ac yn gwneud gwasanaethau cyhoeddus yn dlotach.

Yn yr ymgynghoriad gwreiddiol, ni ofynnodd fawr neb am yr opsiwn hwn ac ni ddylsid ei gynnwys. Nid oes angen deddfwriaeth i gynnal yr iaith Saesneg yng Nghymru, ac yn sicr ni ddylai fod yn orfodol cyn 7 oed.

4.        Goblygiadau ariannol

4.1         A oes gennych farn am oblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 5.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

-

5.        Pwerau I wneud is-ddeddfwriaeth

5.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am addasrwydd y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’i nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 6.1.

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau.)

-

6.        Ystyriaethau eraill

6.1         A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,000 o eiriau)

Cefnogwn yn llwyr y pwyslais yn y Bil ar rymuso athrawon ac ysgolion i gyflwyno hanfodion y cwricwlwm mewn modd sy'n gweddu i'w hardal ac i'w disgyblion. Fodd bynnag, credwn y dylai fod cyfarwyddyd cliriach fod angen datblygu mewn disgyblion - mewn modd sy'n tynnu ar enghreifftiau a ffynonellau lleol - ymwybyddiaeth gadarn â hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth ac adeiladu dealltwriaeth o hanfodion daeryddiaeth, y gwyddorau, celf etc etc mewn cyd-destun Cymreig. Ni ffafriiwn ymagwedd plwyfol o gyfyngu meysydd astudio i Gymru, ond dylid magu golwg Cymreig ar y byd. Mae angen cyfarwyddyd llawer cliriach, nag oanogaeth gyffredinol, ar sut i feithrin mewn disgyblion sut y gallant gymryd rhan mewn prosesau democrataidd a helpu adeiladu Cymru'r dyfodol